Fe’ch gwahoddir i wylnos gweddi a myfyrdod y tu allan i’r Senedd, Caerdydd ar brynhawniau Gwener dros y Grawys. Gwener 28ain Chwefror tan Gwener 10fed Ebrill, rhwng 2yp a 6yp Byddwn yn cofleidio’r bobl a’r blaned i’n calonnau ac yn gweddïo i’r ddynoliaeth fagu’r ddoethineb a’r cryfder i oroesi’r argyfwng hinsawdd. Ar y cyd ag eraill yn gweddïo y tu allan i San Steffan, rydym yn gweddïo am drawsffurfio ein gwleidyddiaeth a chreu byd ôl-carbon llawn cyfiawnder a thangnefedd. Mae croeso i bobl o bob ffydd a heb ffydd i ddod ar un neu fwy o’r dyddiau Gwener. Fe fydd yna gyfnodau tawel, ac amserau ar gyfer siarad/canu/defodau. Os hoffech offrymu gweddi, arwain myfyrdod, cân, côr, araith byr, defod, neu unrhyw beth arall addas, rhowch wybod i ni. Neu dewch atom beth bynnag. Mae hwn yn achlysur heddychlon, di-drais a gweddigar, wedi’i drefnu gan Christian Climate Action Cymru, ond yn agored i bob ffydd ac agwedd ysbrydol. YOU are invited to a multi-faith prayer and meditation vigil o...
Seeking paradise in Cardiff