Ar Antur Arloesi yng Nghaerdydd
Mae’r Undodiaid wedi penodi Stephen Lingwood i fath gwahanol o weinidogaeth yng Nghaerdydd. ‘Gweinidog Arloesi’ yw ei deitl ffurfiol ac yma mae’ n esbonio’r antur ...
Nid dim ond mater o fynd i rywle ar ddydd Sul yw ffydd, ond ffordd o fyw. Dyna pam fy mod i’n cael fy nghyflogi yn “Weinidog Arloesi” yng Nghaerdydd, nid i wasanaethu’r eglwys, ond i wasanaethu’r ddinas gyfan. Fy ngwaith yw byw yng Nghaerdydd a bod ar gael i bwy bynnag sydd eisiau siarad â fi, gan chwilio yr un pryd am gyfleoedd i greu cyfiawnder a heddwch yn y ddinas.
Sut beth ydi hyn? Weithiau mae’n golygu bod gydag eraill ar y strydoedd yn casglu sbwriel; weithiau mae’n golygu protestio yn Ffair Arfau Caerdydd; weithiau mae’n golygu eistedd mewn bar a siarad gyda phwy bynnag sydd o gwmpas (wedi’r cyfan, onid oedd Iesu wedi treulio lot o’i amser yn gwneud yr un peth?)
Y pwynt yw defnyddio fy amser i arddangos ysbrydolrwydd bywhaol trwy fy ngeiriau a’m gweithredoedd. Mae’r ysbrydolrwydd yna wedi ei wreiddio yn y gwirionedd fod yna Gariad sy’n dal popeth ynghyd. A’r hyn sy’n cyfri’ yw cysylltu gyda’r Cariad yna.
Bod yn ynysig sy’n achosi llawer o’n problemau. Rydym wedi colli ein cysylltiad â’n gilydd a Ffynhonnell Bywyd ac, yn y pen draw, mae hynny’n gyfrifol am lawer o’n anawsterau, o newid hinsawdd i deimladau o unigrwydd. Fy ngwaith i yw dod o hyd i ffyrdd o greu cymuned, cysylltiad, ymwybyddiaeth a chyfiawnder ac i ymuno yn y mannau ble mae hynny’n digwydd eisoes.
Dw i eisiau cysylltu ag eraill sy’n credu bod mwy i fywyd na hyn. Dw i eisiau cysylltu gydag eraill sy’n grac am gyflwr y byd ac eisiau bod yn rhan o’r ateb. Dw i eisiau cysylltu gydag eraill sy’n hiraethu am deimlad dyfnach o gymuned. Dw i eisiau cysylltu gydag eraill sy’n agored i’r bywyd ysbrydol ond sy’n gwybod y bydd yna wastad fwy o gwestiynau nag o atebion. Dw i eisiau cysylltu gydag eraill sydd eisiau ymladd yn erbyn mileindra hiliaeth, transffobia a mathau eraill o ormes yn ein cymdeithas. Dw i eisiau cysylltu gydag eraill sy’n hoff o’r cariad radical yr oedd Iesu yn ei ddysgu, ond nad ydyn nhw’n hoffi rhagrith a methiannau’r eglwys.
Dechrau ar yr antur hon yr ydw i yng Nghaerdydd. Dw i’n caru Caerdydd. Mae’n wych o le i fyw a gwneud y gwaith yma. Bob dydd, fe ddewch chi o hyd i fi yng nghaffis coffi Cangotn, ar strydoedd Glanyrafaon ac yn nhafarndai canol y ddinas. Os gwelch fi, dewch i ddweud helo. Os ydych chi eisiau dysgu mwy am yr antur yma, ewch i weld fy mlog ar reignitekuk.blogspot.com, neu dilynwch fi ar Twitter @SJLingwood.

Faith is not just about
going somewhere on a Sunday, but about a whole way of life. That's
why in Cardiff I am employed as a "Pioneer Minister" not to
serve the church - but to serve the whole city. My job is to live in
Cardiff and be available to whoever wants to talk to me while looking
for opportunities to create justice and peace in the city.
What does this look
like? Sometimes it looks like litter picking with others in the
streets; sometimes it looks like protesting the Cardiff Arms Fair;
sometimes it looks like sitting in a bar and chatting to whoever is
around (after all, didn't Jesus spend a lot of his time doing the
same?)
The point is to use my
time to demonstrate with my words and actions a life-giving
spirituality. That spirituality is rooted in the truth that there is
a Love that holds everything together. And what matters is getting
connected to that Love.
So many of our problems
are caused by isolation. We are disconnected from each other, and
from the Source of Life, and this ultimately causes so many of our
problems, from climate change to feelings of loneliness. My job is to
find ways to create community, connection, awareness, and justice;
and to join in the places where this is already happening.
I want to connect with
others who believe there is more to life than this. I want to connect
with others who are angry about the state of the world and want to be
part of the solution. I want to connect with others who long for a
deeper sense of community. I want to connect with others who are open
to the spiritual life, but know there will always be more questions
than answers. I want to connect with others who want to fight the
evils of racism, transphobia, and other oppressions in our society. I
want to connect with others who like the radical love taught by
Jesus, but dislike the hypocrisy and failures of the church.
I am at the beginning
of this adventure in Cardiff. And I don't know where it will take me.
I love Cardiff. It is a great place to live and to do this work. Each
day you will find me in the coffee shops of Canton, the streets of
Riverside, and the pubs of the city centre. If you see me, say hi. If
you want to know more about this adventure have a look at my blog at
reigniteuk.blogspot.com or follow me on Twitter @SJLingwood.
Comments